logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Byd newydd yw ein cri

Byd newydd yw ein cri,
Byd newydd yw ein cri;
Byd newydd yw ein cri,
Byd newydd yw ein cri.

O chwifiwn faner tegwch
uwchben y gwledydd.
A tharo drymiau hedd ymysg cenhedloedd.
Fe glywir sain trefn newydd yn dynesu.
Cariad Duw lifa ’gylch y byd
gan ddwyn rhyddid!

O cydiwn ddwylo’n gilydd
ar draws y moroedd,
A seiniwn gordiau hedd ymysg cenhedloedd.
Fe glywir sain y bobl yn cymodi
Cariad Duw ddawnsia
gylch y byd gan ddwyn rhyddid!

Ie, byd newydd yw ein cri
Wrth in fyw yn llwyr i ti.
Ie, byd newydd yw ein cri;
Arglwydd Dduw, bendithia ni,
Ie, byd newydd yw ein cri
Wrth in fyw yn llwyr i ti.
Ie, byd newydd yw ein cri;
Arglwydd Dduw, bendithia ni,
Dy fendith, rho i ni!

Cyfieithiad Awdurdodedig: Catrin Roberts,
We want to change this world (Change this world) gan Sue Rinaldi
Hawlfraint © 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 145)

PowerPoint