Pennill 1
Er im gerdded drwy’r dyffryn
Ac na welaf y ffordd
Â’r cysgodion o ‘nghwmpas
Fydd gen i ddim ofn
Fe wn i dy fod yma
Arlwyo wnei Di
Er mai unig yw’r llwybr
Rwyt Ti wrth f’ochr i
Rhag-gorws
Gorffwys f’enaid i
Pwysaf ar neb ond Ti
Cytgan
Mae yr Arglwydd (fy) Mugail yn fy arwain
Does gen i’m angen mwy
Yn y dyffryn tywyll, rwyf yn gwybod
Fy Mugail, s’dim angen mwy
Pennill 2
Dad, fe wnei di fy ngheisio
Pan rwy’n crwydro, ar goll
Bydd dy gariad yn f’erlyn
Holl ddyddiau fy oes
Rhag-gytgan
Cytgan
Pont
Gorffwysaf f’enaid ynot Ti
Dy lusern sy’n fy nhywys i
Cytgan
Bugail
Shepherd (Jonny Robinson | Michael Farren | Nathan Singh | Rich Thompson)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2016 CityAlight Music (Gwein. gan Integrity Music)
Farren Love And War Publishing (Gwein. gan Integrity Music)
Integrity’s Alleluia! Music (Gwein. gan Integrity Music)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint