logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bugail Israel sydd ofalus

Bugail Israel sydd ofalus
am ei dyner annwyl ŵyn;
mae’n eu galw yn groesawus
ac yn eu cofleidio’n fwyn.

“Gadwch iddynt ddyfod ataf,
ac na rwystrwch hwynt,” medd ef,
“etifeddiaeth lân hyfrytaf
i’r fath rai yw teyrnas nef.”

Dewch blant bychain dewch at Iesu
ceisiwch ŵyneb Brenin nef;
hoff eich gweled yn dynesu
i’ch bendithio ganddo ef.

Deuwn Arglwydd, â’n rhai bychain
a chyflwynwn hwynt i ti;
eiddot mwyach ni ein hunain
a’n hiliogaeth gyda ni.

PHILIP DODDRIDGE, 1702-51 (See Israel’s gentle Shepherd stand) cyf. MORRIS DAVIES, 1796-1876

(Caneuon Ffydd 666)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015