logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Brenin Da a Hael

Pennill 1
(Rwy’n) dod at orsedd y gogoniant
Gyda dwylo sydd yn wag
‘Mond addewid bod derbyniad
Gan y Brenin da a hael

Pennill 2
Rhoddaf i Ti fy holl feichiau
Rwyt yn rhoi Dy nerth i mi
Tyrd a llenwa fi â’th Ysbryd
Tra rwy’n rhoi fy mawl i Ti

Cytgan
Ti sy’n haeddu’r holl ogoniant
Wedi’m llethu, canaf i
Glod i’r Brenin sydd heb angen
(Â) dwylo gwag, fe’th folaf di
Ti sy’n haeddu’r holl ogoniant
Mewn gorfoledd, canaf i
Caf fy nerbyn drwy Dy gariad
Brenin da a hael wyt Ti

Pennill 3
O’r fath ras, rwyt yn fy ngweld i
Fel dy blentyn a dy ffrind
Yn ddiogel yn dragwyddol
Rwyf yn rhoi i Ti fy mawl

Cytgan

Pont (X2)
Sanctaidd, Sanctaidd, Arglwydd Nerthol
Da a graslon
Da a graslon
Sanctaidd, Sanctaidd, Arglwydd Nerthol
Brenin da a hael

Cytgan

Brenin Da a Hael, Good and Gracious King, James Ferguson | Jonny Robinson | Michael Farren, cyf. Arwel E Jones
© 2016 CityAlight Music (Gwein. gan Integrity Music)
Farren Love And War Publishing (Gwein. gan Integrity Music)
Integrity’s Alleluia! Music (Gwein. gan Integrity Music)
CCLI # 7169888

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • February 10, 2021