logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Boed i feddwl Crist fy Ngheidwad

Boed i feddwl Crist fy Ngheidwad
fyw o’m mewn o ddydd i ddydd,
boed i’w gariad lywodraethu
oll a wnaf mewn ffydd.

Boed i air fy Nuw gartrefu
yn fy nghalon i bob awr,
fel gall pawb fy ngweld yn ennill
trwy fy Arglwydd mawr.

Boed i heddwch Duw, Dad nefol,
fod yn ben ar ’mywyd oll,
nes bod gennyf hedd i’w rannu
gyda’r rhai sy’ ar goll.

Boed i gariad Crist fy llenwi
fel y llenwa’r dŵr y môr;
ei ddyrchafu, minnau’n plygu –
grymus yw yr Iôr.

Boed im redeg gyrfa’r Arglwydd
gyda nerth drwy ddŵr a thân;
minnau ’drychaf ar fy Iesu
wrth im fynd ymlaen.

KATE BARCLAY WILKINSON, 1859-1928 efel. Delyth Wyn a Hywel M.Griffiths
Tôn: St Leonards

PowerPoint PowerPoint – Llydan