logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Boed fy nghalon iti’n demel

Boed  fy nghalon iti’n demel,
boed fy ysbryd iti’n nyth,
ac o fewn y drigfan yma
aros, Iesu, aros byth:
gwledd wastadol
fydd dy bresenoldeb im.

Awr o’th bur gymdeithas felys,
awr o weld dy ŵyneb-pryd
sy’n rhagori fil o weithiau
ar bleserau gwag y byd:
mi ro’r cwbwl
am gwmpeini pur fy Nuw.

Datrys, datrys fy nghadwynau,
gad i’m hysbryd fynd yn rhydd;
rwyf yn blino ar y t’wyllwch,
deued, deued golau’r dydd:
yn y golau
mae fy enaid wrth ei fodd.

Gwawrddydd, gwawrddydd yw fy mywyd,
gweld y wawrddydd, rwyf yn iach:
mi arhosaf hyd pan ddelo –
daw, hi ddaw ‘mhen gronyn bach:
tyred, tyred
im gael gweld fy ngwlad fy hun.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 698; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 465)

PowerPoint youtube