logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Beth yw’r cwmwl gwyn sy’n esgyn

Beth yw’r cwmwl gwyn sy’n esgyn
o’r Olewydd tua’r nef?
Cerbyd Brenin y gogoniant
sydd yn ymdaith tua thref;
ymddyrchefwch,
sanctaidd byrth y ddinas wen.

Beth yw’r disgwyl sy ‘Nghaersalem?
Beth yw’r nerthol sŵn o’r nef?
Atsain croeso’r saith ugeinmil
i’w ddyrchafael rhyfedd ef.
Diolch iddo,
y mae’r Pentecost gerllaw.

At y lliaws yng Nghaersalem,
daeth addewid fawr y Tad,
syrth y miloedd yno i foli
Duw am iachawdwriaeth rad;
Ysbryd Sanctaidd,
aros mwyach gyda ni.

J. T. JOB, 1867-1938

(Caneuon Ffydd 577)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015