logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Beth yw mesur glas y nen?

Beth yw mesur glas y nen?
Beth yw maint y sêr uwchben?
Dweud mae’r bydoedd yn dy glyw,
blentyn bach, mor fawr yw Duw.

Beth yw iaith y blodau fyrdd
wena yn y meysydd gwyrdd?
Dweud mae’r blodau teg eu lliw,
blentyn bach, mor hardd yw Duw.

Beth yw iaith y meysydd ŷd,
coed yr ardd a’r llysiau i gyd?
Dweud mae’r ffrwythau o bob rhyw,
blentyn bach, mor hael yw Duw.

Beth yw neges Iesu Grist,
cyfaill gorau’r galon drist?
Dweud o hyd mae’r hanes gwiw,
blentyn bach, mor dda yw Duw.

NANTLAIS, 1874-1959 (© Yr Athro S. Nantlais Williams. Defnyddir drwy ganiatâd.)

(Caneuon Ffydd 115)

PowerPoint