logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bendithia ni, Iachawdwr hael

Bendithia ni, Iachawdwr hael,
cyn mynd yn awr o’r demel hon,
a phâr i bawb o’th weision gael
dy nefol hedd o dan eu bron;
trwy oriau’n hoes, yn angau du,
O Iesu da, bydd gyda ni.

Aeth heibio’r dydd a’i oriau’n llwyr,
a gwelaist, Iôr, bob peth a fu;
ein mynych gwymp tydi a’i gŵyr,
a gwaeledd ein daioni ni;
trwy oriau’n hoes, yn angau du,
O Iesu da, bydd gyda ni.

Rho in, O Dduw, lawenydd llawn
a mwyniant gwir o’th hyfryd hedd;
rho galon lân i’th garu’n iawn
a gobaith cryf cael gweld dy wedd:
trwy oriau’n hoes, yn angau du,
O Iesu da, bydd gyda ni.

F. W. FABER, 1814-63 cyf. HUGH HUGHES (GETHIN), m. 1867

(Caneuon Ffydd 40)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015