logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Bendigedig wyt (Blessed be your name)

Bendigedig wyt,
pan mae’r tir yn cynhyrchu’i ffrwyth,
A’th ddigonedd yn llifo’n rhwydd;
Bendigedig wyt.
Bendigedig wyt,
pan mae’r byd fel diffeithwch im,
Ac rwy’n crwydro’r anialwch crin;
Bendigedig wyt.

Cytgan

Wrth i’t arllwys dy fendithion,
Canaf dy glod.
Wrth i’r t’wyllwch gau amdanaf,
Dewisaf ddweud:
Bendigedig wyt f’Arglwydd Dduw,
Bendigedig wyt.
Bendigedig wyt f’Arglwydd Dduw,
Bendigedig yw dy enw byw.

Bendigedig wyt,
pan mae’r haul yn tywynnu’n braf,
Ac mae’r byd ‘fel y dylai fod’;
Bendigedig wyt.
A bendigedig wyt,
pan mae’r diodde, a’r baich yn drwm.
Er fod poen yn yr offrwm hwn –
Bendigedig wyt.

Ti’n rhoi a chym’ryd nôl,
Ti’n rhoi a chym’ryd nôl,
Rwy’n dal i ddewis dweud
Mai bendigedig wyt.
Ti’n rhoi a chym’ryd nôl,
Ti’n rhoi a chym’ryd nôl,
Rwy’n dal i ddewis dweud
Mai bendigedig wyt.

Matt a Beth Redman cyf. Arfon Jones

Blessed be your name, Hawlfraint © 2002 Thankyou Music/Gwein. gan CapitolCMGPublishing.com ac eithrio UK & Europe, gwein. gan Integritymusic.com, rhan o David C Cook songs@integritymusic.com Defnyddiwyd drwy ganiatâd

PowerPoint

youtube
 

 
 

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015