logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Awn i Fethlem, bawb dan ganu

Awn i Fethlem, bawb dan ganu,
neidio, dawnsio a difyrru,
i gael gweld ein Prynwr c’redig
aned heddiw, Ddydd Nadolig.

Ni gawn seren i’n goleuo
ac yn serchog i’n cyf’rwyddo
nes y dyco hon ni’n gymwys
i’r lle santaidd lle mae’n gorffwys.

Mae’r bugeiliaid wedi blaenu
tua Bethlem dan lonyddu,
i gael gweld y grasol Frenin;
ceisiwn ninnau bawb eu dilyn.

Mae’r angylion yn llawenu,
mae’r ffurfafen yn tywynnu,
mae llu’r nef yn canu hymnau,
caned dynion rywbeth hwythau.

Awn i Fethlem i gael gweled
y rhyfeddod mwya’ wnaethped,
gwneuthur Duw yn ddyn naturiol
i gael marw dros ei bobol.

RHYS PRICHARD, 1579?-1644

(Caneuon Ffydd 436)

PowerPoint

437

  • Gwenda Jenkins,
  • March 19, 2015