logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Awn, bechaduriaid, at y dŵr

Awn, bechaduriaid, at y dŵr
a darddodd ar y bryn;
ac ni gawn yfed byth heb drai
o’r afon loyw hyn.

Mae yma drugareddau rhad
i’r tlawd a’r llariaidd rai,
a rhyw fendithion maith yn stôr
sy fythol yn parhau.

Ni flinwn ganu tra bôm byw
yr oruchafiaeth hyn
enillodd Iesu un prynhawn
ar ben Calfaria fryn.

‘Does yma eisiau fyth yn bod,
trysorau gras yn llawn,
er maint yr yfed a’r glanhau
sy o fore hyd brynhawn.

Fe welir myrdd ‘mhen gronyn bach,
o’r dwyrain ac o’r de,
yn cydatseinio’n hyfryd am
ei ryfedd gariad e’.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 487)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015