logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Atgyfododd, atgyfododd

Atgyfododd, atgyfododd,
Atgyfododd Iesu, mae yn fyw!

Aeth o’i wirfodd i Galfaria,
Lle tywalltodd rin ei waed;
Drwy ei aberth bu’n fuddugol –
Sathrodd Satan dan ei draed!

Grym y bedd a’i llygredigaeth
Fethodd afael ynddo ef;
Cododd Crist! mae’n fyw byth bythoedd-
Eistedd mae ar orsedd nef!

Os y Crist ni atgyfododd,
Nid oes gobaith chwaith i ni;
Ond mae’n wir, fe ymddangosodd!
A chawn oll ei weld ryw ddydd.

Pan ddaw Crist i’r ddaear eto
A’i angylion hardd yn llu,
Clywir sŵn yr utgorn olaf,
Yna fe gyfodwn ni!

Rhoddodd inni fywyd nefol;
Gweld ei wyneb gawn ryw ddydd,
A’i addoli’ dragwyddoldeb –
Crist yw arwr mawr ein ffydd.

Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, He has risen, Noel a Tricia Richards a Gerald Coates
© 1993 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

(Grym Mawl 2: 40)

PowerPoint