Gobaith

At un sy’n gwrando gweddi’r gwan

At un sy’n gwrando gweddi’r gwan
‘rwyf yn dyrchafu ‘nghri;
ymhob cyfyngder, ing a phoen,
O Dduw, na wrthod fi.

Er mor annheilwng o fywynhau
dy bresenoldeb di,
a haeddu ‘mwrw o ger dy fron,
O Dduw, na wrthod fi.

Pan fo ‘nghydnabod is y nen
yn cefnu arna’ i’n rhi’,
a châr a chyfaill yn pellhau,
O Dduw, na wrthod fi.

Er bod yn euog o dristáu
dy Ysbryd Sanctaidd di,
a themtio dy amynedd mawr,
O Dduw, na wrthod fi.

Er mwyn dy grog a’th angau drud
ar fynydd Calfarî,
a’th ddwys eiriolaeth yn y nef,
O Dduw, na wrthod fi.

Pan fwy’n wynebu ymchwydd cryf
Iorddonen ddofn ei lli,
a theithio’n unig drwy y glyn,
O Dduw, na wrthod fi.

A’r pryd y deui yr ail waith,
mewn mawredd, parch a bri,
i farnu’r byw a’r marw ‘nghyd,
O Dduw, na wrthod fi.

THOMAS HAWEIS, 1734-1820  efel. IEUAN GLAN GEIRIONYDD, 1795-1855

(Caneuon Ffydd 284)

PowerPoint