logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arnat, Iesu, boed fy meddwl

Arnat, Iesu, boed fy meddwl,
am dy gariad boed fy nghân;
dyged sŵn dy ddioddefiadau
fy serchiadau oll yn Un:
mae dy gariad
uwch a glywodd neb erioed.

O na chawn ddifyrru ‘nyddiau
llwythog, dan dy ddwyfol groes,
a phob meddwl wedi ei glymu
wrth dy Berson ddydd a nos;
byw bob munud
mewn tangnefedd pur a hedd.

Mae rhyw hiraeth ar fy nghalon
am gael ffoi o dwrf y byd
a gweld dyddiau colla’i ‘ngolwg
ar bob tegan ynddo ‘nghyd:
cael ymborthi
fyth ar sylwedd pur y nef

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 502; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 477)

PowerPoint

 

  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015