logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arhosaf ddydd a nos

Arhosaf ddydd a nos,
Byth bellach dan dy Groes,
I’th lon fwynhau;
Mi wn mai’r taliad hyn,
Wnaed ar Galfaria fryn,
A’m canna oll yn wyn
Oddi wrth fy mai.

Yn nyfnder dŵr a thân,
Calfaria fydd fy nghân,
Calfaria mwy:
Y bryn ordeiniodd Duw
Yn nhragwyddoldeb yw,
I godi’r marw’n fyw
Trwy farwol glwy’.

Af bellach tua’r wlad
Bwrcaswyd im â gwaed;
‘Rwyf yn nesáu;
Caf yno oll i’n rhan
Sydd eisiau ar f’enaid gwan,
A hynny yn y man,
I’w bur fwynhau.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 225)

PowerPoint

 

 

 

  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015