logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd y nefoedd a’r holl fyd

Arglwydd y nefoedd a’r holl fyd,
Gwaredwr a Phrynwr, Arglwydd byw.
Anrhydedd, gogoniant, grym a nerth
I’r Un ar orsedd nef.

Sanctaidd, sanctaidd; Ef sy’n deilwng,
Moliant fo i Fab ein Duw.
Iesu’n unig sydd yn deilwng –
Gwisg gyfiawnder pur a hedd.

Moliant, moliant, haleliwia,
Moliant fo i’r Un sy’n fyw.
Hosanna, unwn â’r angylion,
Ac addolwn Ef, Oen Duw.

Teilwng, teilwng yw Oen Duw,
Teilwng, teilwng yw Oen Duw.
Teilwng, teilwng yw Oen Duw,
Teilwng, teilwng yw Oen Duw.

Lord if the heavens and the earth, Lucy Fisher. Cyfieithiad awdurdodedig: Gwion Hallam
© Lucy Fisher/ Hillsongs, Australia/ Kingsway’s Thankyou Music

(Grym Mawl 2: 90)

PowerPoint