logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd tyrd

Arglwydd, tyrd, a llefara Di
Wrth in’ geisio bara dy sanctaidd air.
Planna’r gwir yn ein c’lonnau’n ddwfn,
Trawsnewidia ni ar dy ddelw,
Fel bod golau Crist yn llewyrchu’n glir
Yn ein cariad ni, mewn gweithredoedd ffydd;
Arglwydd tyrd, llwydda ynom ni
Dy fwriadau Di, er D’ogoniant.

Arglwydd, dysg beth yw ufudd-hau,
Gostyngeiddrwydd gwir, a pharchedig ofn;
Chwilia ni, ein meddyliau cudd
Yng ngoleuni pur dy sancteiddrwydd;
O cryfha ein ffydd nes y gwelom ni
Faint dy gariad gwiw, a’th awdurdod Di.
Llwydda ’n awr D’eiriau nerthol Di
Nes y trecha’r Gwir anghrediniaeth.

Trwy dy air adnewydda ni
I gael ddirnad uchder dy fwriad;
D’eiriau gwir ers cyn bod y byd,
Fydd yn atsain drwy dragwyddoldeb.
Credu wnawn, drwy ras, D’addewidion Di;
Law yn llaw, drwy ffydd cerddwn gyda Thi.
D’eglwys cod, O llefara, Iôr,
Llenwa’r ddaear oll â’th ogoniant.

Keith Getty a Stuart Townend: Speak, O Lord, cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd M Job
© 2005 Thankyou Music

PowerPoint