logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd sanctaidd, dyrchafedig

Arglwydd sanctaidd, dyrchafedig,
wrth dy odre plygaf fi,
ni ryfyga llygaid ofnus
edrych ar d’ogoniant di.
Halogedig o wefusau
ydwyf fi, fe ŵyr fy Nuw,
ymysg pobol halogedig
o wefusau ‘rwyf yn byw.

Estyn yn dy law farworyn
oddi ar yr allor lân,
cyffwrdd â’m gwefusau anwir,
pura ‘mhechod yn y tân.
Galw fi i’m hanfon drosot,
mi atebaf heb nacáu,
cei fy mywyd fel y mynni
am it wrthyf drugarhau.

O. M. LLOYD, 1910-80 © Gwyn M. Lloyd. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 187)

  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016