logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd nef a daear, gariad hollalluog

Arglwydd nef a daear, gariad hollalluog,
rhyfedd dy ddoethineb a pherffaith yn dy waith;
cerddaist ar y tonnau drwy y storm gynddeiriog,
a bu tawelwch wedi’r ddrycin faith.

Arglwydd, beth a dalwn am dy faith ffyddlondeb?
Arwain ni â’th gyngor yn ffordd d’ewyllys fawr,
dysg i’r holl genhedloedd heddwch a thiriondeb;
eiddot y deyrnas, Frenin nef a llawr.

Maddau, dirion Arglwydd, ddirfawr fai y bobloedd,
maddau rwysg annuwiol ein holl benaethiaid ni,
tywys hwynt i’th Iwybrau, Arglwydd Iôr y lluoedd:
llwybrau hyfrydwch dy gymdeithas di.

Maddau, Arglwydd, maddau, fyth o’th lân faddeuant
tardd grasusau nefol y saint o oes i oes;
maddau, Arglwydd, maddau, casgler er d’ogoniant
ryfedd gynhaeaf grawnwin pêr y groes.

J. T. JOB, 1867-1938

(Caneuon Ffydd 856)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 10, 2015