logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd mawr y nef a’r ddaear

Arglwydd mawr y nef a’r ddaear,
ffynnon golud pawb o hyd,
arnat ti dibynna’r cread,
d’ofal di sy’n dal y byd;
am gysuron a bendithion,
cysgod nos a heulwen dydd,
derbyn ddiolch, derbyn foliant
am ddaioni rhad a rhydd.

Pan ddeffrown ni yn y bore,
Cychwyn rhedeg gyrfa oes,
Bydd yn gwmni ac arweinydd
Ar bob llwybr dyrys croes;
Rho dy wenau, dirion Arglwydd,
Dysg in gerdded yn dy waith,
Ar y llwybr cul sy’n arwain
Tua diwedd gwyn y daith.

Am brydferthwch nef a daear,
haul a sêr a bryn a dôl,
ac am gariad mwyn rieni
a chartrefu yn eu côl,
am fwynderau bywyd ieuanc
a meddyliau pur a glân,
Arglwydd mawr y nef a’r ddaear,
derbyn ddiolch drwy ein cân.

J. LLOYD HUMPHREYS, 1875-1947  © Nest Lloyd Williams. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd 93)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan