logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd mawr y cyfrinachau

Arglwydd mawr y cyfrinachau,
ti yw saer terfynau’r rhod,
artist cain yr holl ddirgelion
a chynlluniwr ein holl fod:
creaist fywyd o ronynnau
a rhoi chwyldro yn yr had;
rhannu, Iôr, wnest ti o’th stordy
amhrisiadwy olud rhad.

Maddau inni yr arbrofion
sy’n ymyrryd â dy fyd;
mynnwn ddifa yr holl wyrthiau,
ceisiwn chwalu pob rhyw hud:
er in dreiddio draw i’r gofod,
er in dyllu yn y nen,
para ‘rydym ni heb ddeall
am y wyrth tu hwnt i’r llen.

Arglwydd, cyfarwydda’n hymchwil
a goleua’r deall hwn,
gad in dreiddio i’r hanfodion
ac amgyffred cread crwn:
boed i’n meddwl fedru canfod
gallu mwy na gallu dyn,
a phob arbrawf yn datgelu
gronyn bach yn fwy o’r llun.

DAFYDD WHITTALL (Caneuon Ffydd 101)
Emyn buddugol Cystadleuaeth Emyn 2000 a drefnwyd gan Teledu Elidir ar gyfer y rhaglen, “Dechrau Canu, Dechrau Canmol.”
Hawlfraint ©Teledu Elidir

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • October 17, 2019