logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd Iesu, rhoist wahoddiad

Emyn ar gyfer Sul ‘Nôl i’r Eglwys’.

Arglwydd Iesu, rhoist wahoddiad
I drigolion byd i’th dŷ,
Mae dy fwrdd yn llawn a helaeth
O’r bendithion mwya sy’.
Cofiwn iti wadd cyfeillion,
A holl deithwyr ffyrdd y byd,
I gyd-rannu o’th ddarpariaeth
Ac i geisio byw ynghyd.

Arglwydd Iesu, wele ninnau’n
Derbyn dy wahoddiad di,
Diolch am dy gwmni grasol
Sy’n ein anrhydeddu ni.
Rhennaist gariad a llawenydd
Rhoddaist inni ras i fyw,
Yn dy berson cawn gymdeithas
Sydd yn llawn o Ysbryd Duw.

Arglwydd Iesu, gwyddom hefyd
Fod ‘na lu sydd eto’i ddod,
Am nad ydynt wedi profi
Cwmni’r Cyfaill gorau’n bod.
Helpa ni i’w tywys hwythau
At dy fwrdd a phrofi’r wledd
Fel y gallant hwythau dystio
Dy fod tithau’n drech na’r bedd.

Denzil I. John Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 18, 2016