logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd Iesu Grist (Arglwydd Byw)

Arglwydd Iesu Grist, daethost atom ni,
un wyt ti â ni, blentyn Mair;
ti sy’n glanhau’n pechodau ni,
hael yw dy ddoniau da, di-ri’;
Iesu, o gariad molwn di,
Arglwydd byw.

Arglwydd Iesu Grist, heddiw a phob dydd
dysg in weddi ffydd, ti, Fab Duw;
dyma d’orchymyn di i ni,
“Gwnewch hyn er cof amdanaf i,”
treiddia dy nerth i’n bywyd ni,
Arglwydd byw.

Arglwydd Iesu Grist, daethost atom ni,
cnawd o’n cnawd wyt ti, blentyn Mair;
ar ôl dy groes a’th angau prudd
codaist o’r bedd i’n rhoi yn rhydd,
gad inni ynot weld drwy ffydd,
Arglwydd byw.

Arglwydd Iesu Grist,deuaf atat ti,
rhof fy oes i ti, O Fab Duw:
gwir yw dy holl orchmynion di,
rhoddion dy ras sy’n faeth i mi,
treiddia dy nerth i’m bywyd i,
Arglwydd byw.

PATRICK APPLEFORD (Living Lord) cyf. R. GLYNDWR WILLIAMS © 1960 Josef Weinberger Ltd. Atgynhyrchwyd trwy ganiatâd deiliaid yr hawlfraint. © geiriau Cymraeg Mrs Mair Williams. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 427)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 19, 2016