logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd Iesu, gad im deimlo

Arglwydd Iesu, gad im deimlo
rhin anturiaeth fawr y groes;
yr ufudd-dod perffaith hwnnw
wrth ŵynebu dyfnaf loes;
yr arwriaeth hardd nad ofnai
warthrudd a dichellion byd;
O Waredwr ieuanc, gwrol,
llwyr feddianna di fy mryd.

N’ad im geisio gennyt, Arglwydd,
fywyd llonydd a di-graith;
n’ad im ofyn am esmwythfyd
ar ddirwystyr, dawel daith;
dyro’n hytrach olwg newydd
ar dy ddewrder gloyw di
a enynno’n fflam o foliant
yn fy nghalon egwan i.

N’ad im ofni’n nydd y frwydyr,
n’ad im ildio’n awr y praw;
byth na chaffer arf ond cariad
hollorchfygol yn fy llaw;
rho im brofi o’r gorfoledd
sy’n anturiaeth fawr y groes,
a chael llewyrch golau’r orsedd
yn fy nghalon dan bob loes.

J. TYWI JONES 1870-1948

(Caneuon Ffydd 742)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • April 28, 2015