logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd Iesu, dysg im gerdded

Arglwydd Iesu, dysg im gerdded
drwy y byd yn ôl dy droed;
‘chollodd neb y ffordd i’r nefoedd
wrth dy ganlyn di erioed:
mae yn olau
ond cael gweld dy ŵyneb di.

Araf iawn wyf fi i ddysgu,
amyneddgar iawn wyt ti;
mae dy ras yn drech na phechod  –
aeth dy ras a’m henaid i;
paid rhoi fyny
nes im gyrraedd trothwy’r drws.

Ar fy ngyrfa dysg im weithio
gwaith y nef, wrth olau ffydd,
nes im ddyfod yn gyfarwydd
a gorchwylion gwlad y dydd;
dysgu’r anthem
cyn cael telyn yn y côr.

Dysg im siarad yn fwy nefol,
fel preswylwyr pur y wlad;
dysg im feddwl, fel yr angel,
yn fwy annwyl am fy Nhad:
wedi’r dysgu,
ti gei’r mawl a’r enw byth.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 710)

PowerPoint