logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd, gad im dawel orffwys

Arglwydd, gad im dawel orffwys
dan gysgodau’r palmwydd clyd
lle yr eistedd pererinion
ar eu ffordd i’r nefol fyd,
lle’r adroddant dy ffyddlondeb
iddynt yn yr anial cras
nes anghofio’u cyfyngderau
wrth foliannu nerth dy ras.

O mor hoff yw cwmni’r brodyr
sydd â’u hŵyneb tua’r wlad
heb un tafod yn gwenieithio,
heb un fron yn meithrin brad;
gwlith y nefoedd ar eu profiad,
atsain hyder yn eu hiaith;
teimlant hiraeth am eu cartref,
carant sôn am ben eu taith.

Arglwydd, dal ni nes mynd adref,
nid yw’r llwybyr eto’n faith;
gwened heulwen ar ein henaid
wrth nesáu at ben y daith;
doed y nefol awel dyner
i’n cyfarfod yn y glyn
nes in deimlo’n traed yn sengi
ar uchelder Seion fryn.

EMRYS, 1813-73

(Caneuon Ffydd 617)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015