logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd, arwain drwy’r anialwch

Arglwydd, arwain drwy’r anialwch
fi, bererin gwael ei wedd,
nad oes ynof nerth na bywyd,
fel yn gorwedd yn y bedd:
hollalluog
ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan.

Colofn dân rho’r nos i’m harwain,
a rho golofn niwl y dydd;
dal fi pan fwy’n teithio’r mannau
geirwon yn ffordd y sydd;
rho im fanna
fel na bwyf yn llwfwrhau.

Agor y ffynhonnau melys
sydd yn tarddu o’r graig i maes;
‘r hyd yr anial mawr canlyned
afon iachawdwriaeth gras;
rho im hynny:
dim i mi ond dy fwynhau.

Ymddiriedaf yn dy allu,
mawr yw’r gwaith a wnest erioed:
ti gest angau, ti gest uffern,
ti gest Satan dan dy droed:
pen Calfaria
nac aed hwnnw byth o’m cof.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91 (Guide me, Oh my great Redeemer)

(Caneuon Ffydd 702,Y Llawlyfr Moliant Newydd: 531, Grym Mawl 2: 37)

PowerPoint