logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Arglwydd, anfon o’r uchelder

Arglwydd, anfon o’r uchelder
nerth yr Ysbryd ar dy was;
gwisg ei fywyd â’th gyfiawnder,
llanw’i galon ef â’th ras;
dyro i lawr iddo nawr
olud dy addewid fawr.

Dyro iddo dy oleuni
i gyflawni gwaith ei oes;
arddel di ei genadwri
i gael dynion at y groes;
Frenin nef, rho dy lef
ddwyfol yn ei eiriau ef.

Anfon y marworyn tanllyd
oddi ar allor lân y nef,
i sancteiddio ei holl fywyd,
ac i buro’i wefus ef;
wedi’r hau, a’r tristáu,
daw y dydd i lawenhau.

PENLLYN, 1854-1938

(Caneuon Ffydd 649)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015