logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ar hyd y ffordd i Jericho (Y Samariad Trugarog)

Samariad Trugarog, Luc 10: 25-37

Ar hyd y ffordd i Jericho
Disgwyliai lladron cas
Am berson unig ar ei daith
Heb ots beth oedd ei dras.

Gadawyd ef a golwg gwael
I farw wrth y berth,
Heb unrhyw un i drin ei friw
Ac adfer peth o’i nerth.

Aeth swyddog Teml heibio’r fan
Aeth ar ei daith mewn braw,
A’r Lefiad basiodd ef ar frys
Gan gadw’r ochr draw.

Samariad ddaeth ar asyn bach
Ac aros gyda’r gŵr,
Gan olchi’r briwiau’n dyner iawn
Yn dawel a di-stŵr.

Fe’i cludodd ef i westy clyd
A thalu am y lle,
A’r Iesu ddwedodd wrth y byd
Mai dyma waith y Ne’.

Denzil I. John Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

PowerPoint