logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ar gyfer heddiw’r bore

Ar gyfer heddiw’r bore
‘n faban bach
y ganwyd gwreiddyn Jesse
‘n faban bach;
y Cadarn ddaeth o Bosra,
y Deddfwr gynt ar Seina,
yr Iawn gaed ar Galfaria
‘n faban bach
yn sugno bron Maria
‘n faban bach.

Caed bywiol ddŵr Eseciel
ar lin Mair
a gwir Feseia Daniel
ar lin Mair;
caed bachgen doeth Eseia,
‘r addewid roed i Adda,
yr Alffa a’r Omega
ar lin Mair
mewn côr ym Methlem Jwda,
ar lin Mair.

Am hyn, bechadur, brysia
fel yr wyt,
ymofyn am y noddfa
fel yr wyt;
i ti’r agorwyd ffynnon
a ylch dy glwyfau duon
fel eira gwyn yn Salmon
fel yr wyt,
gan hynny tyrd yn brydlon
fel yr wyt.

EOS IÂL, 1794-1862

(Caneuon Ffydd 464)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 24, 2015