logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ar ei drugareddau

Ar ei drugareddau
Ar ei drugareddau
Ar ei drugareddau
Ar ei drugareddau
Ar ei drugareddau yr ydym oll yn byw,
Am hynny dewch, a llawenhewch,
Can’s da yw Duw, can’s da yw Duw.

Diolch Dad am newydd ddydd,
A’r bendithion ar ein taith;
Gwawr y bore, machlyd mwyn,
Y lloer a’r sêr fynegant waith
Dy ddwylo medrus di.

Am gysgod, nawdd, a gofal mwyn,
Dy gynhaliaeth ddwyfol di,
Gwna ni’n hael fel ti dy hun,
Wrth weled angen, clywed cri,
Drwy rannu’r hyn a gawn.

Fe lawenhawn yn eiddgar iawn
Yn y bywyd gawn gan Dduw;
Ein mawl brwdfrydig Arglwydd clyw
Fe unwn gyda’r cread gwyw,
I ganu’th glodydd di.

(Grym Mawl 2: 1)

Trish Morgan: All good gifts around us, Cyfieithiad Awdurdodedig: Alun Tudur
Hawlfraint © 1996 Radical UK Music Gweinyddir gan Sovreign Music UK

PowerPoint