logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ar ddydd ein bedydd gwnaethpwyd ni

Ar ddydd ein bedydd gwnaethpwyd ni
yn rhan o deulu dinas Duw;
croesawyd ni i gorlan Crist,
ac ef yw’n Bugail da a’n llyw.

Ar ddydd ein bedydd galwyd ni
yn blant y Tad a’i gariad ef,
aelodau byw am byth i Grist
ac etifeddion teyrnas nef.

Ar ddydd ein bedydd rhwymwyd ni
i gefnu ar bob drwg a chas,
i gredu yn y Drindod lân
a dilyn llwybrau union gras.

Ar ddydd ein bedydd enwyd ni
a rhoddwyd arnom lun y groes;
o dan ei faner milwyr ŷm
dros deyrnas Iesu ddyddiau’n hoes.

Ar ddydd ein bedydd golchwyd ni
o’r pechod oesol sydd mewn dyn,
ac impiwyd ni mewn gobaith gwir
ym mywyd newydd Crist ei hun.

Ar ddydd ein bedydd plannwyd ni
yn nyffryn teg y dyfroedd byw:
boed inni dyfu yno’n ir
a ffrwytho’n bêr er clod i Dduw.

R. GLYNDWR WILLIAMS  © Mrs Mair Williams. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 641)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 19, 2016