logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Anwylaf Grist, dy sanctaidd ben

Anwylaf Grist, dy sanctaidd ben
dan ddrain fu drosof fi;
dy fendith tywallt ar fy mhen
im feddwl drosot ti.

Anwylaf Grist, dy ddwylo gwyn
a hoeliwyd drosof fi;
dy fendith ar fy nwylo boed
i weithio drosot ti.

Anwylaf Grist, dy sanctaidd draed
a hoeliwyd drosof fi;
dy fendith tywallt ar fy nhraed
fel y dilynont di.

Anwylaf Grist, dy galon lân
drywanwyd drosof fi;
dy Ysbryd yn fy nghalon dod
fel byddwyf byw i ti.

Y TAD ANDREW, 1869-1946  cyf. D. EIRWYN MORGAN, 1918-82 © geiriau Cymraeg, Dylan Morgan

(Caneuon Ffydd: 485)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 19, 2016