logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Anturiaf at ei orsedd fwyn

Anturiaf at ei orsedd fwyn,
Dan eithaf tywyll nos;
Ac mi orffwysaf, doed a ddêl,
Ar haeddiant gwaed y groes.

Mae ynddo drugareddau fil,
A chariad heb ddim trai,
A rhyw ffyddlondeb fel y môr
At ei gystuddiol rai.

Mi rof ffarwél i bob rhyw chwant –
Pob pleser is y nen;
Ac yr wy’n cymryd Iesu o’m bodd
Yn Briod ac yn Ben.

Ni welaf wrthych mewn un man,
O’r ddaear las i’r ne’,
A dâl ei garu tra fwyf byw,
Yn unig ond Efe.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 62)

PowerPoint