Gobaith

Angylion doent yn gyson

Angylion doent yn gyson,
rifedi gwlith y wawr,
rhoent eu coronau euraid
o flaen y fainc i lawr,
a chanent eu telynau
ynghyd â’r saint yn un:
fyth, fyth ni chanant ddigon
am Dduwdod yn y dyn.

Fyth, fyth,
am Dduwdod yn y dyn,
fyth, fyth ni chanant ddigon
am Dduwdod yn y dyn.

O flaen y fainc rhaid sefyll,
ie, sefyll cyn bo hir;
nid oes a’m nertha yno
ond dy gyfiawnder pur;
myfi anturia’n eon
drwy ddyfroedd a thrwy dân,
heb olau a heb lewyrch
ond dy gyfiawnder glân.

Glân, glân,
ond dy gyfiawnder glân,
heb olau a heb lewyrch
ond dy gyfiawnder glân.

Ni buasai gennyf obaith
am ddim ond fflamau syth,
y pryf nad yw yn marw,
a’r t’wyllwch dudew byth,
oni buasai’r hwn a hoeliwyd
ar fynydd Calfarî
o ryw anfeidrol gariad
yn cofio amdanaf fi.

Fi, fi,
yn cofio amdanaf fi,
o ryw anfeidrol gariad
yn cofio amdanaf fi.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 329; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 284)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015