logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Angau du, d’wed i mi

Angau du, d’wed i mi,
Ble mae dy golyn di?
Crist orchfygodd rym y bedd
Fe drechodd uffern ddu.

A dyma ‘ngobaith i,
A dyma ‘ngobaith i.

Pan mae’r byd yn pwyso’n drwm
Paid ag anghofio hyn:
Buddugoliaeth Iesu dros
Y gelyn olaf un.

Gwawriodd oes goleuni Crist
Dynoliaeth newydd sydd;
A rhyddid i’r greadigaeth
A welwn ni ryw ddydd.

(Grym Mawl 2: 154)

Jonny Baker a Jon Birch: Where, o death, is your sting? (And death shall have no dominion)
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1997 Proost/Serious Music UK

PowerPoint