logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Anfon law, anfon law, anfon law,

Anfon law, anfon law, anfon law,
Anfon law ar y cenhedloedd,
Anfon law, anfon law, anfon law,
Anfon law ar yr holl bobloedd.

Ennyn dân yn ein calonnau,
Gwrando, ac ateb ein gweddïau:
Gad in weld nerth dy Ysbryd Glân
Agor holl lifddorau y nefoedd,
Pâr i’r utgorn seinio, ac anfon law.

Tywallt lawr arnaf fi,
Ddyfroedd pur (dy) gariad di.
Tywallt lawr arnaf fi,
Ddyfroedd dy gariad di.

Gobaith roist i’r anobeithiol,
Rhoddaist gân newydd i’r holl bobl;
Clyw ein gweddi daer, ein Tad –
Agor holl lifddorau y nefoedd,
Pâr i’r utgorn seinio, ac anfon law.

(Grym Mawl 2: 84)

Joel Pott: Let it Rain, (Love rain down), Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1995 Joel Pott

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 22, 2015