logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Anfon d’Ysbryd

Anfon d’Ysbryd, O Dduw, arnom ni;
ar Gymru ein gwlad, dir mor sych.
Bydd drugarog a deffro dy eglwys Di,
O Dduw, dechrau efo fi,
O Dduw, dechrau efo fi.

Tywallt d’Ysbryd, O Dduw, arnom ni;
adfywia dy bobl i fyw fel Tydi
er mwyn cael cynhaeaf fan hyn yn ein plith,
O Dduw, dechrau efo fi,
O Dduw, dechrau efo fi.

Bydd pob llygad ar agor i d’weld;
bydd pob clust yn clywed dy lais;
bydd pob calon ar agor i’th dder-byn Di a chael newid.
O Dduw, clyw ein cais.

Bydd pob tafod yn datgan mai’r Arglwydd wyt Ti;
plyga pob pen-glin i lawr o dy flaen;
bydd pob bywyd yn ildio’n llwyr i Ti
hyd yn oed y rhai sy’n galed fel maen.

©2012 Andy Hughes
PowerPoint

PowerPoint lliw PDF MP3