logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Anfeidrol Dduw rhagluniaeth

Anfeidrol Dduw rhagluniaeth,
a Thad y greadigaeth,
coronaist eto’r flwyddyn hon
â’th dirion ddoniau’n helaeth:
ti Arglwydd pob daioni,
beth mwy a dalwn iti
na chydymostwng, lwch y llawr,
yn awr i’th wir addoli?

Na foed i’th drugareddau
ddiferu ar ein llwybrau
a ninnau’n fyddar ac yn fud
o hyd i’th nef-rasusau;
ein telyn, Iôr, cyweiria
i seinio Haleliwia:
tragwyddol foli, fyth heb boen,
yr Oen fu ar Galfaria.

GWYNEDDON (John Davies), 1832-1904

(Caneuon Ffydd 97)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2015