logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Anadla, anadl Iôr

Anadla, anadl Iôr,
Llanw fy mywyd i,
Fel byddo ‘nghariad i a’m gwaith
Yn un a’r eiddot ti.

Anadla, anadl Iôr,
Rho imi galon bur,
A gwna f’ewyllys dan dy law
Yn gadarn fel y dur.

Anadla, anadl Iôr,
Meddianna fi yn lân,
Nes gloywi fy naearol fryd
A gwawl y dwyfol dân.

Anadla, anadl Iôr,
Nid ofnaf angau mwy,
Caf fyw’n dragwyddol gyda thi
Uwchlaw pob loes a chlwy’.

Edwin Hatch (1835-89) (Breathe on me breath of God) cyf. Alun Davies (1922-72) © geiriau Cymraeg, Geraint Davies. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd 567; Grym Mawl 2: 13)

PowerPoint