logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Â’n hyder yn yr Iesu mawr

Â’n hyder yn yr Iesu mawr
fe gofiwn am y sanctaidd awr
pan roes ei fywyd drud i lawr,
hyd nes y daw.

Yng nghof yr Eglwys ymhob man
mae’r corff a ddrylliwyd ar ein rhan
a’r bara bortha’n henaid gwan
hyd nes y daw.

Am ffrydiau yr anhraethol loes
dywalltwyd drosom ar y groes
y traetha’r gwin o oes i oes
hyd nes y daw.

Fel yma unir nos ei frad
a’i ail-ddyfodiad a’i fawrhad
o fewn y rasol ordinhad
hyd nes y daw.

O obaith hoff, O ddedwydd ddydd:
na fydded mwy ein bron yn brudd
ond awn ymlaen yng ngrym ein fydd
hyd nes y daw.

GEORGE RAWSON, 1807-89 efel. E. KERI EVANS, 1860-1941

(Caneuon Ffydd 667)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 26, 2015