logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Am y llaw agored, raslon

Am y llaw agored, raslon
molwn heddiw Dduw y nef;
mor ddiderfyn yw y rhoddion
a gyfrennir ganddo ef!
Ffyddlon yw y cariad dwyfol
uwch trueni euog fyd,
gyda llaw agored, dadol
fyth yn llawn er rhoi o hyd.

Llaw y Tad fu’n hulio’r ddaear
gyda manna glân y nef,
ninnau heddiw yn ddiolchgar
roddwn foliant iddo ef:
boed i’r llaw agored, dirion
fyth gysgodi uwch fy mhen,
caffwyf ynddi noddfa gyson
nes dod adre i’r nefoedd wen.

BEN DAVIES, 1864-1937

(Caneuon Ffydd 94)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan