logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Am rif y saint y sydd o’u gwaeau’n rhydd

Am rif y saint y sydd o’u gwaeau’n rhydd,
i ti a roes gerbron y byd eu ffydd,
dy enw, Iesu, bendigedig fydd:
Haleliwia, Haleliwia!

Ti oedd eu craig, eu cyfnerth hwy a’u mur,
ti, Iôr, fu’n Llywydd yn eu cad a’u cur,
ti yn y ddunos oedd eu golau pur:
Haleliwia, Haleliwia!

Fendigaid gymun, undeb dwyfol ddrud,
ni yn ein gwendid, hwythau’n wyn eu byd,
ac eto ynot ti mae pawb ynghyd:
Haleliwia, Haleliwia!

A phan fo’r gad yn drom a’r brwydro’n hir
daw ar y clyw gân buddugoliaeth glir,
bydd hyder eto’n fyw a nerth yn wir:
Haleliwia, Haleliwia!

O fôr a thir er pob rhyw hir wahân,
drwy byrth o berl daw rhif y tywod mân,
a’u cân i’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân:
Haleliwia, Haleliwia!

W. WALSHAM HOW, 1823-97 cyf. T. GWYNN JONES, 1871-1949
Hawlfraint © ystad ac etifeddion T. Gwynn Jones Cedwir pob hawl

(Caneuon Ffydd: 624)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 16, 2016