logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Am Iesu Grist a’i farwol glwy’

Am Iesu Grist a’i farwol glwy’
boed miloedd mwy o sôn,
a dweded pob rhyw enaid byw
mai teilwng ydyw’r Oen.

Fe ddaeth yn dlawd, etifedd nef,
i ddioddef marwol boen;
myneged pob creadur byw
mai teilwng ydyw’r Oen.

Y llu angylaidd draetha nawr
am rinwedd mawr ei boen;
cydganed pawb o ddynol-ryw
mai teilwng ydyw’r Oen.

Aed sôn am waed yr Oen ar led
y ddaear faith i gyd;
gwybodaeth bur a chywir gred
ymdaened dros y byd.

Thomas Jones (1769-1850)

(Caneuon Ffydd 488)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 24, 2015