logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Am iddo gynnig ei iachâd

Am iddo gynnig ei iachâd
a balm i glwyfau’r byd,
a throi’r tywyllwch dilesâd
yn fore gwyn o hyd,
moliannwn ef, moliannwn ef
sy’n rhoi i’r ddaear harddwch nef.

Am iddo roddi cyfle glân
i fyw yn ôl ei air,
a deffro ynom newydd gân
wrth gofio baban Mair,
moliannwn ef, moliannwn ef
sy’n rhoi i’r ddaear harddwch nef.

Am iddo beri i galon dyn
obeithio a dyheu
am ei adnabod ef ei hun,
yr Ysbryd sy’n ail-greu,
moliannwn ef, moliannwn ef
sy’n rhoi i’r ddaear harddwch nef.

W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws

(Caneuon Ffydd 132)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016