logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Am heulwen glir ac awel fwyn

 I ti, O Dad, diolchwn.

Am heulwen glir ac awel fwyn,
i ti, O Dad, diolchwn;
am harddwch ir pob maes a llwyn,
i ti, O Dad, diolchwn;
am flodau tlws a blagur mân,
am goed y wig a’u lliwiau’n dân,
am adar bach a’u melys gân,
i ti, O Dad, diolchwn.

Am ddail y coed, eu ffrwyth a’u sawr,
i ti, O Dad, diolchwn;
am fachlud haul a gwrid y wawr,
i ti, O Dad, diolchwn;
am ddoniau beunydd, rhad a rhydd,
am roddi inni olau ffydd,
am ofal drosom ni bob dydd,
i ti, O Dad, diolchwn.

Am eni’r Iesu gynt yn dlawd,
i ti, O Dad, diolchwn;
am Iesu tirion inni’n Frawd,
i ti, O Dad, diolchwn;
am Iesu, Meddyg mawr pob loes,
a’i aberth drosom ar y groes,
am Un a’n câr hyd ddiwedd oes,
i ti, O Dad, diolchwn.

ANAD. cyf. H. J. HUGHES, 1912-78 © Gwenfair Jenkins. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 128)

PowerPoint