logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ai ni yw’r bobl welant deyrnas Dduw yn dod

Ai ni yw’r bobl welant
deyrnas Dduw yn dod,
Pan ddaw pob gwlad ynghyd i’w foli?
Un peth sy’n siŵr –
ry’m ni yn llawer nes yn awr;
Symudwn ‘mlaen gan wasanaethu.

Mae’n ddyddiau o gynhaeaf,
Dewch galwn blant ein hoes
I adael y tywyllwch,
Credu’r neges am ei groes.

Awn ble mae Duw’n ein hanfon,
Gwnawn ei ewyllys ef.
Gwrandewch yr holl genhedloedd
Ar ei lef! – mae’n dod o’r nef.

Noel a Tricia Richards, Are we the people? (Last generation?) cyf. awdurdodedig Arfon Jones
© 1996 Kingsway’s Thankyou Music

(Grym Mawl 2: 6)

PowerPoint