logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ai Iesu cyfaill dynol-ryw

Ai Iesu, cyfaill dynol-ryw,
A welir fry, a’i gnawd yn friw,
A’i waed yn lliwio’r lle;
Fel gŵr di-bris yn rhwym ar bren,
A’r goron boenus ar ei ben?
Ie, f’enaid, dyma fe.

Dros f’enaid i bu’r addfwyn Oen
Fel hyn, yn dioddef dirfawr boen,
I’m gwneud yn rhydd yn wir;
‘Roedd yn ei fryd wynebu’r gwaith
O eithaf tragwyddoldeb maith –
O! f’enaid, cofia’i gur.

Pennill 1af: Edward Godwin, efel. William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 344)

PowerPoint