Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ai gwir y gair fod elw i mi

Ai gwir y gair fod elw i mi
Yn aberth Crist a’i werthfawr loes?
A gollodd ef ei waed yn lli
Dros un a’i gyrrodd Ef i’w groes?
Ei gariad tra rhyfeddol yw,
Fy Nuw yn marw i mi gael byw.

Mor rhyfedd fu rhoi Duw mewn bedd,
Pwy all amgyffred byth ei ffyrdd?
Y pennaf seraff dawn ni fedd
I blymio’n ddwfn feddyliau fyrdd.
Trugaredd oll! Addoled byd,
Ac aed angylion nef yn fud.

Gadawodd orsedd nefoedd fry,
Gan ymwacáu drwy fwriad hael
O bopeth ond ei gariad cu,
A gwaedodd dros bechadur gwael.
Trugaredd oll, diderfyn, rhad,
A ddaeth o hyd i mi, O Dad.

Bu f’ysbryd caeth dan orthrwm hir
Gan bechod cryf yn nos y byd;
O’th lygad daeth fflam fywiol glir –
Deffrois a’m cell yn olau’i gyd;
Hualau’n rhydd, a chalon lân
Mi godais, do, a’th ddilyn ‘mlaen.

Dim damnedigaeth ofnaf ‘nawr;
Cans Crist yw f’oll yn oll byth mwy:
Yng Nghrist rwy’n byw, Fy Mrenin mawr,
Yng nghwisg cyfiawnder dwyfol glwy.
I’r orsedd âf a hawlio’n hy,
Trwy haeddiant Crist, y goron fry.

Charles Wesley (And can it be), cyf. E.H. Griffiths © Olwen Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Grym Mawl 1: 11; Grym Mawl 2: 5; Caneuon Ffydd 539 )

PowerPoint